Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
30 Mawrth 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12802
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd y cwestiynau gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar ran y Gweinidog. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Dirprwy Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Dechreuodd yr eitem am 14.20
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
.
3 Cwestiynau Amserol
Dechreuodd yr eitem am 15.04
Atebwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasnaethau Cymdeithasol
Russell George: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ffaith bod Ysbyty Athrofaol y Faenor wedi datgan rhybudd du neithiwr?
Atebwyd gan Weinidog yr Economi
Rhun ap Iorwerth A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyhoeddiad fod Orthios wedi cael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr ac effaith hynny ar y 120 o swyddi yn lleol?
4 Datganiadau 90 eiliad
Dechreuodd yr eitem am 15.31
Gwnaeth Mark Isherwood ddatganiad am Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd, sy’n digwydd rhwng 28 Mawrth a 3 Ebrill.
Gwnaeth Hefin David ddatganiad am Wythnos Wyddoniaeth Prydain 2022 (a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf), yn dathlu llwyddiannau prentisiaid ym meysydd pynciau STEM gan gynnwys y rhai sydd wedi astudio mewn colegau addysg bellach gan gynnwys Coleg y Cymoedd sydd â champws mawr yn etholaeth yr Aelod.
Gwnaeth Buffy Williams ddatganiad am - Cronfa Forget Me Not Rhian Griffiths.
Cynnig i ethol Aelodau i Bwyllgor
Dechreuodd yr eitem am 15.36
NNDM7978 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol:
1. Peredur Owen Griffiths (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn lle Heledd Fychan (Plaid Cymru);
2. Natasha Asghar (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn lle Andrew RT Davies (Ceidwadwyr Cymreig), a
3. Sam Rowlands (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod amgen o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn lle Natasha Asghar (Ceidwadwyr Cymreig).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
5 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Gwarchod y dyfodol: Y rhwystr gofal plant sy’n wynebu rhieni sy’n gweithio
6 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cefnogi fferyllwyr
Dechreuodd yr eitem am 16.35
NDM7971 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y gwaith hanfodol y mae fferyllwyr wedi'i wneud drwy gydol y pandemig, yn ogystal â'u rôl hanfodol yn y gwaith o gefnogi gofal sylfaenol ac eilaidd.
2. Yn croesawu'r Gwasanaeth Fferylliaeth Gymunedol Clinigol Cenedlaethol newydd sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2022.
3. Yn pryderu am ganlyniadau Arolwg Lles Gweithlu 2021 y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol, sy'n dangos bod naw o bob 10 ymatebydd mewn perygl mawr o gael eu gorweithio a bod un o bob tri wedi ystyried gadael y proffesiwn yn gyfan gwbl.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) lleihau biwrocratiaeth ar frys drwy gyflwyno e-bresgripsiynau a darparu mynediad at gofnodion meddygol;
b) sicrhau amser dysgu pwrpasol wedi'i ddiogelu o fewn oriau gwaith ar gyfer lles ac astudio;
c) buddsoddi yn y gweithlu fferyllol i hyfforddi mwy o staff fferylliaeth ac uwchsgilio staff presennol.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Dadl Plaid Cymru - Tomenni risg uchel
Dechreuodd yr eitem am 17.25
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7972 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi y gwyddys bod mwy na 300 o domenni wedi'u dosbarthu yn rhai risg uchel, a gallai'r glaw cynyddol sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd ansefydlogi tomenni ymhellach ar draws y cymoedd.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod tomenni risg uchel yn cael eu gwneud yn ddiogel drwy:
a) gofyn i awdurdodau lleol ryddhau gwybodaeth am ble mae tomenni risg uchel wedi'u lleoli;
b) mynnu bod Llywodraeth y DU yn darparu cyllid i ail-lunio, adennill ac adfer tomenni;
c) gosod systemau rhybuddio cynnar lle bynnag y bo modd;
d) adfer y grant adfer tir i helpu i ddelio â risgiau ar domenni.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu cenedlaethol i helpu i adfywio'r ardaloedd o amgylch y tomenni.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
40 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod bod diogelwch tomenni glo yn gymhwysedd datganoledig.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
38 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cyhoeddi gwybodaeth am union leoliadau tomenni risg uchel;
b) gosod systemau rhybuddio cynnar ar gyfer tomenni risg uchel, lle bo hynny'n bosibl;
c) creu awdurdod goruchwylio tomenni glo newydd i sefydlu cyfundrefn ddiogelwch newydd, cynnal asesiadau risg a chynlluniau rheoli tomenni;
d) ffurfioli cytundebau rhwng perchnogion, defnyddwyr tir a'r awdurdod goruchwylio tomenni glo i weithredu mewn argyfwng.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
38 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â chymunedau lleol er mwyn cyfrannu at y dull o reoli tomenni glo yn y dyfodol a’u hadfer, gan elwa i’r eithaf ar gyfleoedd i greu swyddi, cynnig hyfforddiant, uwchsgilio a sicrhau manteision ehangach.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7972 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi y gwyddys bod mwy na 300 o domenni wedi'u dosbarthu yn rhai risg uchel, a gallai'r glaw cynyddol sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd ansefydlogi tomenni ymhellach ar draws y cymoedd.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod tomenni risg uchel yn cael eu gwneud yn ddiogel drwy:
a) gofyn i awdurdodau lleol ryddhau gwybodaeth am ble mae tomenni risg uchel wedi'u lleoli;
b) mynnu bod Llywodraeth y DU yn darparu cyllid i ail-lunio, adennill ac adfer tomenni;
c) gosod systemau rhybuddio cynnar lle bynnag y bo modd;
d) adfer y grant adfer tir i helpu i ddelio â risgiau ar domenni.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu cenedlaethol i helpu i adfywio'r ardaloedd o amgylch y tomenni.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â chymunedau lleol er mwyn cyfrannu at y dull o reoli tomenni glo yn y dyfodol a’u hadfer, gan elwa i’r eithaf ar gyfleoedd i greu swyddi, cynnig hyfforddiant, uwchsgilio a sicrhau manteision ehangach.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.12 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.
8 Cyfnod pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.14
Crynodeb o Bleidleisiau
9 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.19
NDM7969 Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
Clefyd niwronau motor a mynediad at driniaeth a chyfleusterau yng Nghymru
Daeth y cyfarfod i ben am 18.41
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 26 Ebrill 2022